Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 23 Mai 2018
Amser:
11.18 -
12.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4850
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Sayed AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Jack Sargeant AC |
Tystion: |
Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol
· Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip
· Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru
· Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru
2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i ddarparu dadansoddiad cychwynnol o gynlluniau peilot y cynnig Gofal Plant.
2.3 Yn ystod y sesiwn cytunodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i ddarparu data ar fenywod yn y diwydiannau STEM, yn enwedig recriwtio a chadw ar ôl absenoldeb mamolaeth.
3.1.a Nododd y Pwyllgor lythyr gan y Llywydd mewn perthynas â Senedd@Delyn.
3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ac at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ynghylch materion a godwyd yn ystod y sesiwn.